Skip to main content

Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf i lenyddiaeth plant yng Nghymru ac yn 2026 rydym yn dathlu hanner ganrif o llyfrau anhygoel i blant a phobl ifanc.

Fe sefydlwyd y gwobrau ym 1976 i gydnabod, anrhydeddu a hyrwyddo rhagoriaeth mewn llyfrau i blant a phobl ifanc. Ers hynny, mae’r gwobrau wedi eu hennill gan rai o’n prif awduron a darlunwyr gan gynnwys Manon Steffan Ros, Jac Jones, Gareth F. Williams, Catherine Fisher a Jackie Morris.

Categorïau

Mae tri chategori i’r gwobrau:

Cymraeg Cynradd (oedran 4–11)
Cymraeg Uwchradd (oedran 11–18)
Llyfr Saesneg gyda chefndir Cymreig dilys ar gyfer plant oed cynradd neu uwchradd (oedran 4–18)

Llysgenhadon a Noddwyr

Rydym yn ddiolchgar iawn i’n Llysgenhadon a chefnogwyr hael Gwobrau Tir na n-Og 2026:

Llysgenhadon 2026:
Richard Parks
Elain Llwyd a Ffion Llwyd

CILIP Cymru Wales, ein noddwr hir sefydlog y gwobrau.

A diolch o galon i’n cefnogwyr yn ystod ein blwyddyn penblwydd yn 50:

BCCIT
Folly Farm
Gwasg Gomer
Halen Môn
Welshpool Printing Group