Skip to main content

Darllenwyr ifanc

Darganfod y Cynllun Cysgodi

Nod cynllun cysgodi Tir na n-Og yw codi ymwybyddiaeth o’r llyfrau ar y rhestrau byrion ymhlith darllenwyr ifanc wrth iddynt eu darllen a’u trafod gyda chyfoedion o’r un anian. Gall darllenwyr hefyd bleidleisio dros Wobr Dewis Darllenwyr Tir Na n-Og – gwobr arbennig ym mhob categori a ddewisir gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y cynllun cysgodi.

Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen plant eraill gofrestru i gymryd rhan a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillydd o blith y llyfrau ar y rhestrau byrion, gyda chymorth y pecyn cysgodi. Mae’r pecyn cysgodi yn cynnwys crynodeb o’r llyfrau, sylwadau gan y beirniaid swyddogol, gwybodaeth am yr awduron, gemau, a chardiau pleidleisio.

Cofrestru

Cofrestrwch eich ysgol

Agorodd Cynllun Cysgodi 2026 a’r cyfle i gofrestru ddydd Llun, 23 Mawrth, a chyhoeddwyd dyddiadau cau pleidleisio ar gyfer Gwobrau Dewis y Darllenwyr ar yr un dyddiad.

Cyhoeddwyd enw enillydd y wobr Saesneg yn Llyfrgell Pontypridd ar 9 Mai 2026. Cyhoeddir enw enillwyr y gwobrau Cymraeg yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn ar 28 Mai 2026.