Adnoddau
Mae Miss Prydderch – hen ffrind i Wobrau Tir na n-Og – yn mynd ar daith yr haf yma! I ddathlu sioe theatr newydd Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau gan gwmni theatr Arad Goch, rydym ni wedi creu pecyn arbennig i ysgolion. Rydym wedi dewis chwe llyfr arbennig sydd wedi ennill gwobrau Tir na n-Og ar hyd y blynyddoedd – o Tan ar y Comin, yr enillydd cyntaf un, i Miss Prydderch a’r Carped Hud a ffefrynnau eraill. Dyma adnodd gwych i gefnogi athrawon ac ysbrydoli darllenwyr ifanc ar lawr dosbarth.
Diolch i BBCIT am eu cefnogaeth hael i greu’r pecyn yma.